Wrth i Luis Arturo Richards gamu oddi ar yr awyren ym maes awyr Caerdydd ar ôl taith hanner ffordd o gwmpas y byd, mae ei ddisgwyliadau mor fawr â'r paith ym Mhatagonia. Ond buan y gwêl yr Archentwr ifanc fod hen wlad ei dadau'n wahanol iawn i'r ddelwedd a bedlerwyd gan ei fam dros y blynyddoedd. Stori yw hon lle mae mynd yn ôl yn rhan annatod o symud ymlaen, lle mae twyll a hunan-dwyll yn hollbresennol a lle mae'r gallu gan y gorffennol i synnu o hyd.